TYSTIOLAETH YSGRIFENEDIG I SESIWN GRAFFU PWYLLGOR MENTER A BUSNES CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU AR ADRODDIAD MARK BARRY AR SYSTEM FETRO

 

Cyflwyniad

 

1.    Ym mis Mai 2013, rhoddais gomisiwn i Mark Barry ddarparu argymhellion a chynigion ar gyfer datblygu system fetro ar gyfer y De-ddwyrain, a oedd yn canolbwyntio ar elwa’n llawn ar y manteision a ddaw yn sgil Trydaneiddio Llinellau’r Cymoedd.

 

2.    Cyflwynodd Mark ei adroddiad i mi yr hydref hwn. Mae ei grynodeb gweithredol wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac rwyf wedi darparu copi o’r adroddiad llawn i bob Aelod Cynulliad.

 

Adroddiad Mark Barry ar System Fetro

 

3.    Datblygwyd adroddiad Mark gyda’r nod deublyg o alluogi datblygu economaidd ynghyd â darparu trafnidiaeth effeithiol ac effeithlon yn y De-ddwyrain. Mae’r adroddiad yn nodi ymyriadau strategol i wella darpariaeth trafnidiaeth integredig yn y De-ddwyrain, gan gysylltu safleoedd datblygu a chyflogaeth allweddol a chaniatáu i ragor o bobl deithio i’r gwaith.

 

4.    Ar 8 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ddyraniad cyfalaf o £62 miliwn yn y gyllideb ar gyfer cam cyntaf y system fetro. Defnyddir yr arian i wella’r seilwaith rheilffyrdd; uwchraddio gorsafoedd; cyflwyno cynlluniau parcio a theithio, gwella coridorau bws, cyflwyno cynlluniau cerdded a beicio a datblygu ymhellach yr argymhellion yn adroddiad Mark.

 

5.    Yn ogystal â chefnogi ymyriadau cam cyntaf y gwaith ar y system fetro, mae adroddiad Mark yn darparu argymhellion ar gyfer gwella’r ddarpariaeth trafnidiaeth integredig ar sawl prif goridor. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi gwelliannau y gellid eu gwneud i’r rhwydweithiau rheilffordd a bws presennol er mwyn gwella mynediad i safleoedd economaidd allweddol.

 

Datganiad Llafar i’r Cyfarfod Llawn

 

6.    Ar 22 Hydref, cyflwynais Ddatganiad Llafar i’r Cyfarfod Llawn yn nodi’r camau nesaf rwyf yn eu cymryd ar ôl derbyn adroddiad Mark.

 

7.    Cyhoeddais yn fy natganiad fy mod yn sefydlu Grŵp Gweithredu System Fetro o fewn Llywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl y canfyddiadau a’r argymhellion yn adroddiad Mark. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r darlun cyffredinol a’r cyfeiriad i’r dyfodol, a bydd y grŵp newydd yn ein helpu i symud ymlaen yn gyflym i’r cyfnod cynllunio a chyflawni. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu darparu mwy o wybodaeth am y Grŵp Gweithredu System Fetro yn y sesiwn graffu ar 5 Rhagfyr.

 

8.     Mae’r system fetro yn llawer mwy na phrosiect trafnidiaeth. Mae’n bwysig o ran sicrhau bod blaenoriaethau a buddsoddiadau’r system fetro yn cydymffurfio â’i gilydd fel rhan o ddull dinas-ranbarth cydgysylltiedig. Rwy’n sicr y bydd y system fetro’n sbarduno’r gwaith o weddnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth a Chymru drwyddi draw.

 

 

Edwina Hart MBE CStJ AC

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth